Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
28 Ionawr 2019
SL(5)302 – Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2019
Gweithdrefn: Negyddol
Gwneir y Gorchymyn hwn yn unol ag adran 21(5) o Ddeddf Aer Glân 1993 ("y Ddeddf") a daw i rym ar 6 Chwefror 2019. Mae'r Gorchymyn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2017 (Offeryn Statudol 2017/423) (W. 90).
Mae adran 20 o’r Ddeddf yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar allyrru mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn a wneir o dan adran 21(5) o’r Ddeddf, esemptio, o ran Cymru, ddosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os ydynt wedi eu bodloni y gellir defnyddio’r cyfryw leoedd tân i losgi tanwydd nad yw’n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn esemptio’r dosbarthau ar leoedd tân a restrir yn y golofn gyntaf o’r tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn rhag darpariaethau adran 20 o’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn yr ail golofn a’r drydedd golofn o’r tabl hwnnw mewn perthynas â’r dosbarthau hynny ar leoedd tân.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Aer Glân 1993
Fe’u gwnaed ar: 15 Ionawr 2019
Fe’u gosodwyd ar: 16 Ionawr 2019
Yn dod i rym ar: 06 Chwefror 2019
SL(5)305 – Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran gwybodaeth a chyfansoddiad ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Diogelwch Bwyd 1990; Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
Fe’u gwnaed ar: 17 Ionawr 2019
Fe’u gosodwyd ar: 21 Ionawr 2019
Yn dod i rym ar: 22 Chwefror 2019